Menyw yn siarad â phlant

Yng Nghymru mae ymchwil iechyd a gofal yn sicrhau manteision sylweddol i gleifion ac i’r cyhoedd yn ogystal ag i’r economi

Gwaith ymchwil sydd yn mynd rhagddo er mwyn gwella iechyd a gofal pobl Cymru fydd y mater canolog mewn cynhadledd genedlaethol a gynhelir heddiw (7 Hydref), a bydd yn amlygu manteision ymchwil i gleifion yn ogystal ag ag i’r economi yng Nghymru. 

Bydd adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn tanlinellu manteision a ddaw yn sgil ymchwil i’r cleifion hynny sydd yn byw gyda chyflyrau megis Clefyd Huntington’s, Anhwylder Straen Ȏl-drawmatig a chanser y fron o ganlyniad i gydweithredu eang yng Nghymru. 

Bydd yr adroddiad, Gwneud gwahaniaeth: Effaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru hefyd yn tanlinellu’r cynnydd a wnaed yn achos cleifion y galon mewn gofal critigol, yn ogystal â’r rôl y mae ymchwilwyr Cymru yn parhau i’w chwarae yn yr ymgais i ganfod triniaethau a brechlynnau ar gyfer COVID-19. Mae’r rhai hyn yn cynnwys treial brechlyn dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, astudiaeth sydd yn defnyddio gwrthgyrff cleifion sydd wedi gwella ac astudiaeth genomig i helpu gwyddonwyr i ddeall os yw geneteg yr unigolyn yn gallu pennu pa mor debygol ydynt o ddal y firws. 

Mae profion RECOVERY a gynhelir ledled y DU hefyd yn digwydd mewn nifer o ysbytai yng Nghymru ac mae’r canlyniadau cyntaf a ryddhawyd yn dangos bod y cyffur rhesymol ei bris, dexamethasone, yn lleihau hyd at draean nifer y marwolaethau ymhlith cleifion mewn ysbytai sydd â chymhlethdodau anadlu difrifol oherwydd COVID-19.

Bydd ail adroddiad a gyhoeddir heddiw yn dangos effaith economaidd ymchwil iechyd yn ystod 2018/19 a’r gwerth a gynhyrchwyd trwyddo. 

Mae astudiaeth annibynnol KPMG, a gomisiynwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2019 yn dangos bod cyfraniad economaidd ymchwil iechyd - gyda chefnogaeth sefydliadau GIG yng Nghymru - tua £93 miliwn a bod tua 1,600 o swyddi wedi eu creu gan sefydliadau GIG.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhai nodweddion penodol yn y gyfundrefn ymchwil Gymreig sydd yn wahanol i wledydd eraill y DU ac yn gwneud Cymru yn lleoliad deniadol i ymgymryd â gwaith ymchwil.

Caiff y ddau adroddiad eu cyhoeddi heddiw (Hydref 7fed) pan fydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal ei gynhadledd blynyddol digidol cyntaf. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned ymchwil ryngwladol yn ogystal â’r rhai sydd yn arwain y ffordd yng Ngymru o safbwynt ymladd canser, afiechydon y galon a dementia.

Dyma eiriau’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal yng Nghymru:

“Mae’r ddau adroddiad a gyhoeddir heddiw yn dangos yn glir pam bod ymchwil yn hanfodol, yn enwedig yn awr, gan fod y byd yn dibynnu ar ymdrechion ymchwilwyr i ganfod gwell triniaethau a brechlynnau er mwyn achub bywydau.

“Yn aml mae’r gwaith ymchwil a gwblheir yma yng Nghymru yn dwyn manteision i’r DU gyfan, ac i holl wledydd y byd. Gallwn fod yn falch iawn o hynny – tra  ar yr un pryd yn cydnabod bod angen i’n system iechyd a gofal ni yng Nghymru wneud y defnydd gorau o’r gwaith ymchwil a gwblheir yma yng Nghymru ochr yn ochr ag ymdrechion y DU a gweddill y byd.

“Yn wir, rwyf yn credu bod y bobl sydd yn treulio gyrfa ym maes ymchwil iechyd yn gwneud hynny oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth. Maent am i’w syniadau, eu hymchwil a’u hymdrechion arwain at wella bywydau cleifion, eu teuluoedd a’r cymunedau a’r poblogaethau yr ydym yn eu gwasanaethu. Ac mae’r adroddiadau hyn yn dangos sut y gall ymchwil iechyd a gofal wneud gwir wahaniaeth.”